Croeso i Aberaeron

Fel Maer y Dre, pleser o’r mwyaf yw cyflwyno’r wefan yma i chi. Mae’r wefan poblogaidd yma wedi hod yn ffynhonell wybodaeth ddefnyddiol am bopeth sy’n digwydd yn Aberaeron, os mai dyma’r tro cyntaf i chi ymweld, neu os ydych yn dychwelyd, neu yn byw yn y dref, bydd y wefan yma yn rhoi’r wybodaeth i chi i gael y gorau yn y dref, yn ogystal â darllen erthyglau diddorol a rhestr o ddigwyddiadau cyffrous.

Mae ein tref yn llawn gweithgaredd gyda’r busnesau yn gweithio mor galed i sicrhau safon uchel ymhob gwasanaeth. Mae gennym ni dafarndai, tai bwyta, caffis a siopau deniadol, ac hefyd ystod llawn o opsiynau llety.

Mae gennym rhywbeth at ddant pawb o fewn y dref a thu hwnt. Gallwch ddod o hyd i safleoedd agored yn y parciau, neu dro ymlaciol ar hyd yr afon, heb sôn am olygfeydd dramatig o glogwyni llwybr yr arfordir i’r llwybr seiclo heddychlon hyd at Llanerchaeron, heb anghofio’r clybiau chwaraeon prysur.

Mae Cyngor y Dref yn gweithio’n galed i gynnal a chadw’r parciau a’r meysydd chwarae o fewn eu gofal, ac mae nifer o brosiectau newydd ar waith ar gyfer canol y dref, gan gynnwys wifi am ddim ac ap y dref.

Yn naturiol, rydyn ni’n falch iawn o’n tref, a diolchwn am y cadarnhad diweddar am ddechreuad buan ar waith diogelu’r harbwr gan sicrhau dioglewch Aberaeron and sawl blwyddyn i ddod.

Gobeithio gwnewch chi fwynhau eich cyfnod yn Aberaeron. Rydym yn gwerthfawrogi eich hymwelaid, a gobeithiwn y byddwch yn dychwelyd.

Cynghorydd Rhodri D. Jones

Maer Tref Aberaeron 2023/24

Cefnogwyd gan Deuganmlwyddiant Aberaeron 2007