|
|
|||
|
|
Gorffennaf | ||
|
Gwyl y deucanmlwyddiant (subject to licence) |
Cliciwch y linc am rhagor o wybodaeth | ||
| 28ain | |||
| 29ain | Gwasanaeth Eciwmenaidd | ||
| 30ain | Llwybr Tref Aberaeron a’r Placiau Hanesyddol | ||
| 30ain | Noson ym Mhlasty Monachty | ||
| Awst | |||
| 1af | SÊR AR Y SGWÂR | ||
| 2ail | Parti i’r Plant | ||
| 3ydd | Noson Roc Aberaeron | ||
| 4ydd | Dawns Ffurfiol y Deucanmlwyddiant | ||
|
Dewch i ddathlu gyda’n gilydd Ym 1807, cafodd y Parchedig Alban Thomas Jones Gwynne Ddeddf Seneddol Breifat a’i alluogodd i adeiladu’r Harbwr, ac felly sefydlu tref Aberaeron. Rydym yn falch o’r dreftadaeth forwrol, ddiwydiannol, pensaernïol a diwylliannol sydd wedi tyfu gyda’r dref. Yn 2007, blwyddyn ein Deucanmlwyddiant, rydym yn dathlu ein treftadaeth ac yn rhoi diolch i’r bobl hynny a gyfrannodd mewn sawl ffordd tuag at Aberaeron. Bydd digwyddiadau cymdeithasol ac arddangosfeydd yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, yn arwain at y prif ddathliadau, sef Wythnos yr Ŵyl - Gorffennaf 28ain - Awst 4ydd 2007. Oriau Agor Swyddfa Docynnau: Llun - Gwener 10:00 - 15:30, Neuadd Goffa, Aberaeron. Ffôn: 07999 552 541 E-bost: festival@aberaeron.info |
|||
Arrddangosfeydd, adloniant, lluniaeth, llongau'n ymweld gan gynnwys RFA Largs Bay
Harbwr Aberaeron, 12:00 - 5:00 yh
Mynediad am ddim
| Noddwyd gan: |
![]() |
Forwrol, Noson Fenisaidd a Thân Gwyllt
Cynhelir noson draddodiadol Fenisaidd gan Glwb Hwylio a Chwaraeon Dŵr Aberaeron, yn cynnwys llongau wedi’u haddurno, talent gerddorol fyw, bwyd da ac arddangosfa tân gwyllt ar hyd yr harbwr. Anogir pawb i ddod i noson agoriadol ysblennydd yr Ŵyl.
Harbwr Aberaeron, 7:00 yh
Mynediad am ddim
Noddwyd y tân gwyllt gan:
Dewch i ymuno â ni ar gyfer gwasanaeth eciwmenaidd, ble bydd pobl y dref ac ymwelwyr yn dod at ei gilydd i ddathlu genedigaeth tref Aberaeron. Bydd y gwasanaeth o ddiolchgarwch yn cynnwys emynau ac eitemau cerddorol.
Sgwâr Alban, Aberaeron. 11.00am
Mynediad am ddim. Gwneir casgliad
Noddwyd y derbyniad gan: Merched y Wawr a D.L.Jones
Llwybr Tref Aberaeron a’r Placiau Hanesyddol
Gellir darganfod treftadaeth gyfoethog ac amrywiol Aberaeron ar sawl stryd ac o amgylch nifer o gorneli’r dref. Fe fydd cyflwyniad taith hunan-dywysedig Llwybr y Dref gan yr Arglwydd Elystan Morgan a gosod placiau efydd ar fannau diddordeb hanesyddol yn amlygu a gwarchod hanes Aberaeron ar gyfer y presennol a’r dyfodol. Yn y pen draw, bydd y placiau a Llwybr y Dref yn coffáu pawb a fu’n byw, yn gweithio ac yn gwasanaethu yn ein tref hyfryd. Yn dechrau o'r swyddfa gwybodaeth ymwelwyr am 5yh.
Am ddim.
Noddwyd y derbyniad gan: Huw a Dilys Lewis
Parti yn y Parc a Rhostio Mochyn
Yn dilyn lansiad Llwybr y Dref, bydd Bord Gron Aberaeron yn cynnal Parti a Rhostio Mochyn yn y Cae Sgwâr - digwyddiad cymdeithasol mawr, gydag adloniant.
Sgwâr Alban, Aberaeron. 6.30pm
Mynediad - £7.00 (yn cynnwys lluniaeth)
| Noddwyd gan: |
![]() |
Ymunwch â ni ym Mhlasty Monachty ar gyfer Garddwest, yn cynnwys perfformiad gan aelodau ‘Memorama’ o ddarlith a draddodwyd gan y diweddar Gareth Owen ar hanes creu Aberaeron. Mae “My Dear Reverend Cousin” yn sôn am y Parch. Alban Thomas a etifeddodd Monachty gyda’i wraig, Susannah Maria Jones o Dyglyn. Ei gyfoeth a’i weledigaeth ef a arweiniodd at adeiladu’r Harbwr yn 1807, felly’n creu tref Aberaeron.
Plasty Monachty, Pennant. 7.00pm GWERTHWYD I GYD
Mynediad - £5.00 Oedolion. £2.50 Plant cynradd. Darperir lluniaeth ysgafn.
| Noddwyd gan: | Kelvin a Sally Mills |
Dyma gyngerdd gala glodfawr yn arddull “Proms in the Park” - uchafbwynt yr Ŵyl. Gwahoddir y gynulleidfa i ymlacio yn y Cae Sgwâr, mwynhau picnic a gwrando ar berfformiadau cerddorol godidog gan gantorion ac offerynwyr enwog.
Sgwâr Alban, Aberaeron. Gatiau’n agor am 4.30pm. Cyngerdd yn dechrau am 7.00pm
Mynediad - £15.00 Oedolion. £3.00 Plant cynradd (gydag oedolyn).
[Cyfyngir nifer y tocynnau felly archebwch yn gynnar.]
|
Catrin Finch |
Jason Howard |
||
|
|
|
||
|
Meriel Andrew |
Dafydd Edwards |
Gwawr Edwards |
|
|
Daw Meriel o Giliau Aeron, ac mae’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Aberaeron. Wedi dysgu am chwe mlynedd, trodd tuag at ganu’n broffesiynol. Mae hi’n soprano gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, ac mae ei pherfformiadau operatig yn cynnwys rolau Pamina a Mimi, yn ogystal â sgorau ffilm. |
Mae Dafydd yn byw a gweithio ar fferm Plasybryniau ym Methania. Mae ganddo lais tenor cyfoethog, a bu’n canu’n lleol, yn genedlaethol and yn rhyngwladol yn Ewrop ac America.
|
Mae Gwawr yn ferch i Dafydd, ac yn astudio perfformiad lleisiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ganddi lais soprano, ac enillodd lu o wobrau yn Eisteddfodau’r Urdd a Chenedlaethol. Bu hefyd yn perfformio gyda’i thad ar deithiau tramor.
|
|
|
Gareth John |
Elen Môn Wayne |
||
|
Daw Gareth o Lanarth, a mynychodd Ysgol Gyfun Aberaeron. Wedi graddio o Brifysgol Bangor, aeth i Lundain i astudio opera. Mae’r tenor yma wedi ennill nifer o wobrau ac ysgoloriaethau, ac mae wedi teithio llawer. |
Mae Elen Môn Wayne wedi perfformio am ddwy flynedd yn ‘The Phantom of the Opera’ yn Llundain, ac enillodd Wobr Laurence Olivier am y Perfformiad Gorau mewn Rôl Gynhaliol am ei rhan yn ‘Jerry Springer the Opera’ yn y Theatr Genedlaethol a Theatr Cambridge. Ar hyn o bryd mae hi’n rhan o gast perfformio ‘The Sound of Music’ yn y Palladium. |
||
|
Presenters |
|||
|
Huw Edwards |
Eleri Siôn |
||
|
|
|
||
|
Noddwyd gan: |
|
||
Parti i blant cynradd – prynhawn o hwyl ac adloniant, gyda cherddoriaeth fyw o’r llwyfan. Mae lluniaeth ac adloniant yn gynwysedig.
Sgwâr Alban, Aberaeron. 4.00pm
Mynediad - £1.00
| Noddwyd gan: |
![]() |
Bandiau ifanc lleol ar y llwyfan yn fyw yn y Cae Sgwâr - noson o gerddoriaeth fyw ar gyfer yr arddegau.
Sgwâr Alban, Aberaeron. 7.30pm
Mynediad - £5.00
| Noddwyd gan: |
![]() |
Dawns Ffurfiol y Deucanmlwyddiant
Daw dathliadau’r wythnos i ben gyda noson ffurfiol o luniaeth a dawnsio i gyfeiliant cerddorol Band Mawr Phil Dando.
Neuadd Goffa Aberaeron. 8.00pm GWERTHWYD I GYD
Mynediad - £30.00
| Noddwyd gan: | Barry a Jacqui Lyne |
Hurio Cadeirau Olwyn am ddim - Gallwch hurio Cadeirau Olwyn oddi wrth Canolfan Mobility, Tŷ Compton, Sgwâr Alban - 0808 100 1133 (Freephone) Diolch i Nest Evans, Cantre Mobility, am gynnig defnydd o gadeiriau olwyn yn rhad ac am ddim yn ystod Wythnos y Dathl. Bydd angen blaendâl adaladwy.
Disclaimer:-
Er ein bod yn ceisio sicrhau fod y wybodaeth yma yn gywir, nid ellir ein dal yn
gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau.
Mae pob safle yn ddibynnol ar
dderbyn trwydded. Gellir newid yr artistiaid.