Welcome to Aberaeron!    Croeso i Aberaeron!

English

hafan

hanes

  digwyddiadau

cyfeirlyfr

map

pamffled

linciau

treftadaeth

carnifal

yn ei blodau

defnyddiol

gwyl bysgod

Croeso i Aberaeron

Pleser o’r mwyaf yw eich croesawu chi ar ran trigolion Aberaeron. Wrth gwrs rydw i’n unllygeidiog, ond nid yn unig y dref brydferthaf yng Ngheredigion yw Aberaeron, ond oherwydd ei lleoliad canolog, mae hefyd yn ganolfan hyfryd i ymweld â’n sir odidog. Mae’r arfordir yn ymestyn o aber yr afon Dyfi yn y gogledd i aber yr afon Teifi yn y de. Mae Bae Ceredigion yn un o’r mannau gorau yn y DU i weld y dolffin trwynbwl, ein mynyddoedd ysblennydd, ein llynnoedd a’n dyffrynnoeddgallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Ond cym dechrau ymweld â’r sir, cymerwch amser i gyfarwyddo ag Aberaeron ei hun. Fe wyddoch am ein harbwr a chanol y dref, a cherddwch ar hyd Llwybr y Dref i ddarganfod ein gemau gwerthfawr.

 

 

Eleni mae Aberaeron yn nodi dau ddigwyddiad unigryw. Ar Fai 12 1911, cafwyd agoriad swyddogol y rheilffordd o Lambed i Aberayron. Er iddo gau yn anffodus yn 1965, teimlwyd y dylid dathlu’r canmlwyddiantcewch ddarllen mwy tu mewn. Yn ail, mae’r Clwb Hwylio yn dathlu ei hanner canmlwyddiantllongyfarchiadau i’r pwyllgor a’r aelodau sy’n gweithio’n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i sicrhau ei barhad. Mae’n amhosib dychmygu’r dref heb y clwb a thrueni na fyddaf yma i ddathlu’r canmlwyddiant! Yn ogystal, mae yma’r digwyddiadau arferol dros yr haf, sy’n arbennig o ystyried y boblogaeth gymharol fychan o 1,521.

 

 

 

Yn ystod yr hydref diwethaf, bûm yn ymweld â Lloegr o Gernyw i Durham, gan geisio dod o hyd i lyfryn tref am ddimheb lwyddiant. Felly, llawer o ddiolch i Bwyllgor Neuadd Goffa Aberaeron sy’n cyhoeddi llyfryn blynyddol y dref ac i’r holl fusnesau a sefydliadau sy’n ei gefnogi. Rydw i bob amser yn llungopïo’r Cyfeirlyfr Ffôn a’i roi mewn mannau strategol o gwmpas y ty ac yn fy mag llaw.

 

Mwynhewch!

 

Mair Harrison, Maer y Dref 2011/12

 

Supported by Aberaeron Bicentenary 2007

webmaster@aberaeron.info

© Cardiconnect.com 2011