
Dros y blynyddoedd, mae Gwyl Bysgod Aberaeron wedi tyfu'n un o uchafbwyntiau'r calendr bwyd yng Nghymru a disgwylir i rai miloedd o bobl heidio i'r dref yr haf yma i weld a blasu'r gorau o fwyd y môr, pysgod a chynnyrch lleol. Trefnwyd yr Wyl Bysgod am y tro cyntaf deuddeg mlynedd yn ôl a bellach mae'n mynd o nerth i nerth.