Nadolig Cymunedol

30ain Tachwedd 2019

30ain Tachwedd 2019

Cynhelir y digwyddiad eleni ar ddydd Sadwrn 30ain o Dachwedd ac mae’r pwyllgor yn cynllunio rhai newidiadau i’r digwyddiad eleni. Fe fydd y gwin a chawl  arferol am ddim a bydd disgyblion o Ysgol Gynradd Aberaeron yn cymryd rhan mewn gorymdaith golau. Bydd stondinau hefyd felly dewch a phrynwch eich anrhegion Nadolig.

Rhaglen Digwyddiadau

12.00  hanner dydd       Dros 20 Stondin yn dechrau gwerthu YNGHŶD          

Cawl am ddim

Gwin y Gaeaf am ddim

Diod oren am ddim

Peintiwr gwynebau am ddim 

Gwneud Torch Nadolig

Prynwch Docyn Raffl – gwobrwyon gwych

Ennillwch Gacen Nadolig

Dyfalwch bwysau’r Twrci ac ennill un

         

Fflur McConnell ar y delyn

Seindorf Arian yn ein diddanu o gwmpas y dref ac yn y Babell

2.50     Siôn Corn yn dechrau ei daith o’r Clwb Hwylio i’r dref, gan droi i’r dde ger London House, i’r chwith ger y Feathers; i fyny Heol y Tywysog gan droi i’r chwith a dod lawr i’r dref cyn troi i fewn i Stryd y Farchnad. .

3.00     Siôn Corn yn cyrraedd y Babell ac i fewn i’w ogof i groesawi’r plant

4.00     Canlyniadau Sbïo yn y Ffenest

4.45     Gorymdaith y Goleuadau yn dechrau yn y Tabernacl – croeso i chi ymuno gyda’r plant, ond dewch â golau o ryw fath a chroesewir gwisgoedd Nadoligaidd. Yn gorffen o flaen Neuadd y Dref lle fydd:

5.00     Gweddi gan y Ficer

           Goleuo’r Goeden Nadolig

           Plant Ysgol Gynradd Aberaeron yn canu carolau Nadolig

5.45     Canlyniadau’r Raffl a’r Cystadleuthau