Ar ran trigolion y dref, pleser o’r mwyaf yw eich croesawu i dref harbwr prydferth Aberaeron. Os mai dyma eich ymweliad cyntaf, neu os ydych yn dychwelyd, gobeithio byddwch yn mwynhau’r cyfan sydd gan Aberaeron i’w gynnig. Bydd y Llyfryn yma yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i sicrhau’r gorau posib ar gyfer eich ymweliad. Mae nifer fawr o glybiau a sefydliadau yn brysur yn paratoi digwyddiadau, gyda llawer o’r rhain wedi’u nodi yn y Llyfryn, ac rydym yn sicr y bydd rhywbeth at ddant a mwynhad pawb!
Mae ystod eang o fusnesau yn aros i’ch croesawu, megis lletyau, siopau, tai bwyta, caffis a thafarnau, y cyfan yn darparu ansawdd a gwasanaeth ardderchog fel y medrwch fwynhau eich arhosiad. Mae ein parciau, traethau a llwybrau ger yr afon yn werth eu harchwilio ar ddiwrnod ymlaciol. Ond os ydych yn teimlo’n fwy egnïol, gallwch gerdded ar hyd yr arfordir neu ddefnyddio’r llwybrau seiclo i fwynhau llonyddwch yr arfordir a’r wlad. Mae’r bywyd gwyllt ar hyd y llwybrau yma yn uchafbwynt i lawer wrth iddynt anadlu aer y môr. Am fwy o wybodaeth ar beth sydd gan Aberaeron i’w gynnig, ewch i’r Ganolfan Dwristiaeth ar stryd Pen Cei.
Mae Cyngor y Dref yn gweithio gyda busnesau i sicrhau fod Aberaeron yn cynnal ei safonau aruchel fel lleoliad gwyliau godidog, ac felly yn sicrhau fod eich ymweliad â’r dref yn un cofiadwy, ac y byddwch wedi mwynhau er mwyn dychwelyd eto am sawl blwyddyn i ddod.
Cynghorydd Katrina James
Maer Aberaeron 2019/2020
Cefnogwyd gan Deuganmlwyddiant Aberaeron 2007