Welcome to Aberaeron!    Croeso i Aberaeron !

English

hafan

hanes

  digwyddiadau

cyfeirlyfr

map

pamffled

linciau

treftadaeth carnifal yn ei blodau defnyddiol gwyl bysgod

Hanes

"... Alban Thomas Jones Gwynne, Clerk Lord of the said Manor of Llyswen, otherwise Aberayron, is willing and desirous at his own Expense, to rebuild, enlarge, improve and maintain the said Quay or Pier, and also to improve the said Harbour"

Dyma ddyfyniad o Ddeddf Arbennig Seneddol yng Ngorffennaf 28ain 1807, a roddodd enedigaeth i’n tref.  Rhaid cofnodi diolch i weledigaeth Y Parchedig Alban Thomas Jones Gwynne, Arglwydd y Faenor Aberaeron.

Yn ystod y degawdau dilynol, tyfodd y dref o gwmpas yr harbwr, a newidiodd beth oedd unwaith yn bentref pysgota bychan yn un o brif borthladdoedd masnachol ar hyd arfordir Bae Ceredigion.   

Yn ystod y degawdau dilynol, tyfodd y dref o gwmpas yr harbwr, a newidiodd beth oedd unwaith yn bentref pysgota bychan yn un o brif borthladdoedd masnachol ar hyd arfordir Bae Ceredigion.

Enillwyd parch am strwythur a ffurf y dref, a gynllunwyd gan Col. Alban Gwynne a'i bensaer Edward Haycock fel “un o’r enghreifftiau gorau o drefi cynllunedig ar raddfa fychan yng Nghymru".   

Roedd perchnogion llawer o dai o gwmpas  yr harbwr yn gapteiniaid llong, ac enwyd llawer ohonynt ar ôl mannau pellafol, megis “Gambia”, “Melbourne” ac ati.

Yn ystod y cyfnod yma, roedd y diwydiant adeiladu llongau yn ei anterth ar hyd yr arfordir, ac am bron i ganrif gwelwyd llongau hwyliau a stęm yn defnyddio’r enw “Aberaeron” gydag enwau fel “Cadwgan”,"Mountain Lass", "Gwladys”, “Aeron Queen”, “Lively Lass”, “All Right” a “Star of Wales”, i enwi ond ychydig.

Gydag estyniad yr harbwr, tyfodd mentrau lleol.  Daeth Aberaeron yn ganolfan prysur i sawl diwydiant llwyddiannus.  Mae safle’r hen felin wlân yn dal ar lannau’r afon Aeron, a chynhyrchwyd rhaw enwog Aberaeron yn y gweithiau haearn lleol.  Roedd amaethyddiaeth yn dal yn prif gyfranogwr i’r economi lleol, gyda’r ffair anifeiliad flynyddol ar Dachwedd 13eg yn denu pobl o bell ac agos – traddodiad sy’n dal i fodoli heddiw, er mai’r unig anifeiliaid a welir y dyddiau yma yw’r pysgod aur ar stondinau’r ffair!  Roedd gan y morwyr, y ffermwyr a thrigolion y dref sawl tafarn neu westy i fynychu – tua 35 ar un adeg.  Heddiw, dim ond naw sydd wedi goroesi.

Yn anffodus, gwanhawyd llwyddiant harbwr y dref gyda dyfodiad y Rheilffordd ym 1911, a dyma oedd dechrau’r diwedd i draddodiadau morwrol y dref. Heddiw, un o brif ddiwydiannau Aberaeron yw twristiaeth, ac mae ymwelwyr o bob cwr o’r byd yn dod i’r dref i brofi’r “Gem ym Mae Ceredigion”, gan gymryd ychydig ohoni yn eu calonnau wrth iddynt adael.

 

Supported by Aberaeron Bicentenary 2007

webmaster@aberaeron.info